COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 07.12.22
YMDDIHEURIADAU
Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Hywel Jones, Dylan Hughes.
PRESENNOL
Cyng. Russell Sharp (Is-Gadeirydd), Robert G. Owen, Osian Edwards, Mair Thomas, David J. Roberts a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Hydref 20ed 2022 fel rhai cywir.
MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £18,392.49 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £5,198.89 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn.
Llinellau Melyn ger Stestion Llandanwg
Adroddodd y Clerc/Cyng. Annwen Hughes ei bod wedi cysylltu gyda Swyddog o Gyngor Gwynedd ynglyn a hyn a wedi cael gwybod bod y mater gyda’r Gwasanaeth Cyfreithiol a bod yr amserlen i’w roi yn y papur newydd wedi llithro ychydig. Maen’t yn gobeithio bydd y rhybudd yn y papurau newydd cyn y Nadolig.
CEISIADAU CYNLLUNIO
Diwygiad ansylweddol i Ganiatâd Materion a Gadwyd yn ôl NP5/66/PIAW224 dyddiedig 21/03/2012 i osod paneli ffotofoltäig ar y drychiad blaen, gosod pwmp ffynhonnell gwres aer, ehangu i un ffenestr to yn y cefn, ail-leoli ffenestr to arall, a newid uchder y crib – Tir ger Tyddyn Llwyn, Llandanwg (NP5/66/224A)
Cefnogi y cais hwn.
Addasiadau a thrwsio i ffermdy presennol – Tyddyn Y Gwynt, Llanfair (NP5/66/272)
Gwrthwynebu y cais hwn oherwydd bod y cynlluniau allan o gymeriad y ty gyda’r holl wydr.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £7,857.76 yn y cyfrif rhedegol a £5,523.90 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
Mrs Annwen Hughes – £380.00 – cyflog 3 mis
Mr. M. J. Kerr – £440.00 – agor bedd y diweddar Mrs Margaret Williams
Y Lleng Prydeinig – £40.00 – torch pabi coch
Dwr Cymru – £17.79 – tap dwr y fynwent
Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. M. Downey – £40.00 – rhent cwt yr hers (Tachwedd)
W. O & M. Williams – £856.00 – claddu y diweddar Mrs Margaret Williams
Pritchard a Griffiths – £566.50 – claddu llwch y diweddar Mr. a Mrs William Greenwood
Mr. M. Downey – £40.00 – rhent cwt yr hers (Rhagfyr)
GOHEBIAETH
SARPA
Wedi cael e-bost gan Mr. Jeff Smith, Cadeirydd y grwp uchod yn gwahodd y Cyngor i ymuno a SARPA, grwp defnyddwyr rheilffordd sydd yn pwyso i wella’r gwasanaeth rheilffordd. Mae tal o £10 i ymuno a’r grwp. Cytunwyd i beidio ag ymuno ar grwp hwn.
453…………………………………….Cadeirydd
UNRHYW FATER ARALL
Eisiau cysylltu gyda’r Adran Priffyrdd i ofyn iddynt glerio y draeniau ar hyd ochor y ffordd A496 ar ol i’r gwair gael ei dorri.
Eisiau gwneud ymholiadau gyda pwyllgor y neuadd i ofyn a fyddai modd cael wifi wedi ei osod i mewn yn y neuadd.
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod wedi cael cyfarfod gyda rhai o’r Uned Morwrol i drafod gwella mynedfa i’r anabl i’r traeth ag yr oeddynt yn gofyn a oedd Aelodau y Cyngor yn gwybod am rhywun lleol a fyddai yn fodlon clerio y tywod o’r llwybr i’r traeth ag hefyd casglu y defaid marw a pethau eraill sydd yn cael eu golli i fyny ar y traeth.
Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ei bod wedi holi pryd byddai y Tim Tacluso Ardal Ni yn ymweld ar pentref ond yn anffodus heb gael ateb eto. Hefyd cafwyd wybod ganddi bydd Mr. Barry Davies y Swyddog Morwrol yn ymddeol ar ol 25 mlynedd o wasanaeth i’r Cyngor.
Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar y 11eg Ionwar am 7.30 o’r gloch
ARWYDDWYD……………………………………………..Cadeirydd
DYDDIAD…………………………………………………….
454