COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD AR 16.03.21
COFNODIONO GYFARFOD CYNGOR CYMUNED LLANFAIR AGYNHALIWYD YN RHYTHIOL DROS ZOOM AM 7.30 O’R GLOCH 16.3.21
YMDDIHEURIADAU
Cyng. Gerallt Jones.
PRESENNOL
Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Russell Sharp (Is-Gadeirydd), Robert G. Owen, Mair Thomas, Dylan Hughes, DavidJ. Roberts, Osian Edwards.
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Ionawr 14eg 2021 fel rhai cywir.
MATERION YN CODI
CynllunCyllideb
Adroddwyd bod £17,432.35 wedi cael ei warioers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £5,854.13 o wariant yn llaina oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn.
TorriGwair
Adroddodd y Clerc ei bod wedi gosodhysbyseb yn Llais Ardudwy yn gwahoddtenderau I dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yn yr ardal am eleni ag ei bod wedi derbyn un tender gan Mr. JasonColeman, 6 Tan y Wenallt, Llanbedr am £15 yr awr I wneud y gwaith hyn. CytunwydI dderbyn y tender yma.
CEISIADAU CYNLLUNIO
Ddim wedi dod ilaw ersi mi gysylltu gyda chi o’r blaen.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £5,487.96 yn y cyfrif rhedegol, a £5,521.14 yn y cyfrifcadw.
Taliadau ers y cyfarfod diwethaf
Mr. M. J. Kerr – £80.00 – agor bedd I gladdullwch y diweddar Frank a Brenda McKormick
Mr. M. J. Kerr – £440.00 – agor bedd y diweddarMrs Ann Elisabeth Ann Jones
Mrs Annwen Hughes – £566.86 – cyflog 3 mis(£380) a costau blwyddyn (£186.86)
Derbyniadau ers y cyfarfod diwethaf
Pritchard a Griffiths – £760.00 – claddu y diweddar Mrs Elisabeth Ann Jones
Mr. M.Downey – £40.00 – rhent cwt yr hers (Chwefror)
Mr. M.Downey – £40.00 – rhent cwt yr hers (Chwefror)
Ceisiadauam gymorth ariannol
CFFI Meirionnydd – Dim
Radio Ysbyty Gwynedd – £75.00
Adroddodd y Trysorydd ymhellach ei bod wedigofyn i Ms Luned Fon Jones o Adran Cyllid, Cyngor Gwynedd a fyddai yn fodlongweithredu fel Archwiliwr Mewnol y Cyngor eto eleni ag ei bod wedi cytuno ihyn. Cytunodd yr Aelodau i hyn ag hefyd cytunwyd bod y Clerc yn anfon llythyr oapwyntiad iddi. Hefyd cafwyd wybod gan y Trysorydd bod Archwilio Cymru wedidatgan bod y Cyngor yn un o rhai a fydd yn cael archwiliad bach eleni.
GOHEBIAETH
Radio Ysbyty Gwynedd
Wedi derbyn llythyr gan yr uchodynghyd a matolen ariannol yn gofyn am gymorth ariannol tuag at gynnal a rhedegy radio uchod. Cytunwyd I gyfranu £75.00.
CFFIMeirionnydd
Wedi derbyn llythyr gan yr uchodynghyd a matolen ariannol yn gofyn am gymorth ariannol tuag at gynnal a rhedegy Mudiad yma yn Meirionnydd. Cytunwyd I beidio a chyfranu iddynt eleni.
UNRHYWFATER ARALL
Wedi cael e-bost gan y Cadeirydd yn tynnu sylwfod y Cyng. Mair Thomas wedi derbyn cwynion bod twrch daear yn y fynwent ag yngwneud llanast, mae y Cadeirydd wedi datgan ei fod yn mynd i geisio ei ddifa.
Cafwyd wybod gan y Cadeirydd bod Mrs Sue Traviswedi ei ffonio ynglyn a rhoi fainc newydd ar ran y WI wrth y fynwent ar arosfabws, ag yn datgan byddai y WI yn ei archebu a’i osod ag un pren fyddai hi hefo10 mlynedd o warrant arni. Cytunwyd pawb i’r cais hwn.
DyddiadCyfarfod Nesa
Penderfynwyd cynnal cyfarfod nesa y Cyngor cyn gynted a fyddyn bosib cael gwneud