COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 09.09.20
YMDDIHEURIADAU
Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Gerallt Jones, DylanHughes.
PRESENNOL
Cyng. Russell Sharp (Is-Gadeirydd), Robert G. Owen, MairThomas, David J. Roberts.
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Chwefror 26ain 2020 fel rhai cywir.
MATERION YNCODI
CynllunCyllideb
Adroddwyd bod £6,215.24 wedi cael ei wario erscychwyn y flwyddyn ariannol newydd, a bod hyn yn £7,126.00 o wariant yn llai naoedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. ‘Roedd hyn yn bennafoherwydd bod y £4,000 oedd wedi cael ei glustnodi ar gyfer partneriaeth ytoiled Llandanwg heb gael ei dalu a wedi cael ei glustnodi ar gyfer mis Mai.
Llinellau Melyn gerstesion Llandanwg
Adroddodd y Clercoherwydd y feirws corona nid oedd pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd ddim ondnewydd ail gychwyn cynnal cyfarfodydd. Hefyd adroddodd ei bod wedi gofyn IGyngor Gwynedd pryd byddai’r adroddiad ynglyn ar uchod yn mynd o flaen pwyllgorcynllunio y Sir ar ateb oedd wedi ei dderbyn nid oeddynt yn gwybod ar hyn obryd.
Defibrillator lawr yn LLandanwg
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan Mr. JohnHouliston ar y 27ain o Orffennaf yn gofyn a oedd y Cyngor Cymuned wedi cysidrogosod defibrillator lawr yn Llandanwg ag ei bod wedi anfon yr e-bost ymlaen ibawb. Cytunwyd i wneud ymholiadau i osod defibrillator mewn lleoliad yn nes amy traeth ag hefyd gwneud ymholiadau osydi yn gweithio gyda rhywun sydd wediboddi. Agenda y cyfarfod nesa.
Ethol Cynghorydd
Adroddodd y Clerc eibod wedi derbyn llythyr gan Mr. Caerwyn Roberts yn datgan ei fod wedipenderfynnu ymddeol fel Aelod o’r Cyngor. Cytunwyd anfon y llythyr ymlaen at y Swyddog Etholiadol ynGaernarfon.
CEISIADAU CYNLLUNIO
Ddim wedi dod ilaw.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £13,680.07 yn y cyfrifrhedegol, a £5,520.86 yn y cyfrif cadw.
Taliadau ynystod y mis
Mr. Arwel Thomas – £540.00– torri gwair y fynwent
Mrs Annwen Hughes – £380.00 – cyflog 3 mis
Pwyllgor Neuadd Goffa – £40.00 – llogi ystafell bwyllgor am y flwyddyn
Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. M.Downey – £40.00 – rhent cwt yr hers (Awst(
CyngorGwynedd – £11,000.00 – hanner y precept
Mr. M.Downey – £40.00 – rhent cwt yr hers (Medi)
422……………………………………..Cadeirydd
Adroddodd yTrysorydd er bod copiau o gyfrifon y Cyngor wedi cael eu hanfon at bob Aeloddechrau mis Ebrill, nid oeddynt wedi cael eu cymeradwy am y flwyddyn ariannol 2019/20 ag hefyd oeddangen I ardystio y ffurflen flynyddol er mwyn gallu anfon y dogfennau priodolymlaen i’r Archwiliwr Allanol. Adroddod y Trysorydd ymhellach oherwydd y feirwsbod y dyddiad penodi ar gyfer arfer hawliau etholwyr o dan Ddeddf ArchwilioCyhoeddus (Cymru) 2004 wedi cael ei symund eleni, ar dyddiad newydd yw rhwng y1af ar 28ain o Fedi 2020. O Fedi’r 29ain hyd nes bydd yr archwiliad wedi eigwblhau fe fydd gan etholwyr y Gymuned yr hawl i gwestiynu’r ArchwilyddCyffredinol am y cyfrifon. Cytunodd pob Aelod a oedd yn bresennol i gymeradwyoy cyfrifon ag hefyd ardystio y ffurflen flynyddol ag i’r Cadeirydd a’rClerc/Trysorydd arwyddo y cyfrifon, y ffurflen flynyddol ar llyfr cyfrifon arran y Cyngor.
GOHEBIAETH
Cyng. Mair Thomas
Cafwyd lluniau gan y Cyng. Thomas yn dangos y golwg bler oedd wedi mynd o amgylch y Maes, Llandanwg a cytunwydeu hanfon ymlaen i’r Adran priodol yng Nghyngor Gwynedd.
UNRHYW FATER ARALL
Cafwyd wybod gan y Cyng. Mair Thomas bod Mr. Hywel Jones wedi trwsio yrhysbysfwrdd ar y Maes ag ei fod wedi gwneud gwaith da.
Cafwyd wybod bod sedd o dan Ty Gwyn angen sylw a cytunwyd gofyn i Mr.Hywel Jones gael golwg arni.
Cafwyd wybod bod y bonbren wedi ei thrwsio ond, yn anffodus nid oedd ytwll sydd ger y giat mochyn rhwng Argoed ag Ymwlch heb gael ei lenwi. Cytunwydanfon at yr Adran Priffyrdd ynglyn a hyn.
Dyddiad y Cyfarfod Nesa
Cytunwyd i beidio a gosod dyddiad ar hyn o bryd ond aros nes bydd mater o bwys yn dod i law.
ARWYDDWYD……………………………………….Cadeirydd
DYDDIAD……………………………………………… 423.