COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 08.06.23 C
YMDDIHEURIADAU
Cyng. Osian Edwards, Hywel Jones, Dylan Hughes a’r Cyng. Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)
PRESENNOL
Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Russell Sharp (Is-Gadeirydd), Robert G. Owen, Mair Thomas, David J. Roberts a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd)
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Ebrill 12ed 2023 fel rhai cywir.
MATERION YN CODI
Ethol Swyddogion am y flwyddyn 2023/24:-
Cadeirydd:- Cyng. Eurig Hughes
Is-Gadeirydd:- Cyng. Russell Sharp
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £2,238.20 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £8,576.75 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn.
Wi-Fi yn y Neuadd
Adroddodd y Clerc ei bod wedi siarad gyda Mr. Rob Lewis ynglyn ar mater yma ag ei fod wedi cytuno i edrych am
gwahanol opsiynau ar ran y Cyngor. Adroddodd y Clerc bod Mr. Rob Lewis wedi bwriadu fod yn bresennol yn
cyfarfod heno ond yn anffodus ‘roedd yn methu. ‘Roedd wedi anfon copiau o dau wahanol opsiynau er mwyn i’r
Cyngor gael golwg arnynt. Cytunwyd i fynd am opsiwn 1.
HAL
Adroddwyd bod cyfarfod wedi gael ei gynnal rhwng aelodau o Fwrdd yr uchod a cynrychiolwyr o Gynghorau Tref a Chymuned yr ardal ar y 27ain o fis diwethaf. ‘Roedd y Cyng. Osian Edwards wedi mynychu y cyfarfod hwn ar ran y Cyngor hwn ac adroddwyd ei fod wedi bod yn gyfarfod buddiol iawn a bod Aelodau o’r chwech Cyngor i gyd yn gytun hefo sut fydd angen cario ymlaen. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi derbyn e-bost gan un o Gyfarwyddwyr y Bwrdd ynghyd a chopiau o gyfrifon elw y cholled y ganolfan am y 4 mis diwethaf, enwau rhai maen’t yn gobeithio fydd yn ymuno ar Bwrdd yn fuan ag hefyd chopi drafft o’r cynllun busnes. Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i bob Aelod. Cytunwyd yn unfrydol ar ol trafodaeth i dalu cyfraniad y Cyngor am y 6 mis nesa bob mis yn lle yn un taliad. Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan un o Gyfarwyddwyr y Bwrdd yn gofyn a fyddai yn bosib i’r Cyngor dalu y taliad misol ar yr 28ain o bob mis ar gyfer taliad y mis canlynol. Derbyniwyd e-bost pellach gan y Bwrdd yn gwahodd un aelod o’r Cyngor Cymuned i ddod yn aelod anweithredol o’r Bwrdd a hefyd yn gwahodd un aelod i gyfarfod ar y 29ain o’r mis hwn. Roedd y Clerc wedi rhoi gwybod iddynt byddai rhaid trafod y cais hwn yng nghyfarfod nesa y Cyngor cyn bod ddim taliad yn cael ei wneud. Hefyd adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi derbyn e-bost o Gyngor Cymuned Talsarnau yn datgan pryder ynglyn a chyfrifon HAL. Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon y ddau e-bost ymlaen i’r Aelodau. Cytunwyd i dal y tal precept bob mis ar hyn o bryd yn lle un taliad llawn. Ar ol trafodaeth fanwl cytunwyd bod angen i gyfrifon HAL gael eu archwilio ond i dalu y swm misol y mis hwn ag i ail drafod y sefyllfa os na fydd copi o’r cyfrifon ac adroddiad misol wedi cael eu derbyn erbyn cyfarfod nesa y Cyngor. Nid oedd neb yn fodlon mynychu y cyfarfod ar y 29ain o’r mis hwn na cynrychioli’r Cyngor fel aelod anweithredol o’r Bwrdd
Adroddiad Blynyddol
Adroddodd y Clerc ei bod hi yn ofynol bellach bod y Cyngor yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol am y flwyddyn ariannol sydd wedi bod ag felly I’r perwyl hyn mae hi wedi anfon copi o’r Adroddiad ‘rwyf wedi ei baratoi ar gyfer y Cyngor i bob Aelod er mwyn iddynt gael rhoi sylwadau arni os bydd angen. Cytunwyd bod hon yn iawn.
462…………………………………………….Cadeirydd
CEISIADAU CYNLLUNIO
Diddymu Cytundeb 106 dyddiedig 04/12/2007 sydd yn cyfyngu defnydd a meddiannaeth yr annedd i unigolyn sy’n cael ei gyflogi, neu a gyflogwyd ddiwethaf, mewn crefft, busnes neu broffesiwn rheolaidd mewn lleoliad o fewn radiws o dri deg milltir – Abendruhe The Garden Flat, Pensarn Hall, Llanbedr (NP5/66/101G)
Cefnogi y cais hwn.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £13,946.67 yn y cyfrif rhedegol a £5,542.62 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
BHIB Insurance Ltd – £431.41 – insiwrans y Cyngor
Mr. Arwel Thomas – £950.00 – torri gwair y fynwent x 3 a gwaredu chwyn
Mrs Annwen Hughes – £380.00 – cyflog 3 mis
Archwiliad Cymru – £355.00 – cwblhau archwiliad allanol 2020/21
Mr. M. J. Kerr – £440.00 – agor bedd y diweddar Mrs Ann Dix
Llais Ardudwy – £20.00 – hysbyseb torri gwair
Mr. Roy Carter – £322.00 – torri gwair y llwybrau cyhoeddus
Derbyniadau yn ystod y mis
Cyngor Gwynedd – £8,500.00 – hanner y precept
Mr. M. Downey – £40.00 – rhent cwt yr hers (Mai)
Cyllid a Thollad – £103.00 – ad-daliad TAW
Pritchard a Griffiths – £907.36 – claddu y diweddar Mrs Ann Dix
Mr. M. Downey – £40.00 – rhent cwt yr hers (Mehefin)
Ceisiadau am gymorth ariannol
Hamdden Harlech ac Ardudwy – £4,282.19
Fe adroddodd y Trysorydd bod yr Archwiliad Mewnol wedi cael ei gwblhau a bod dim materion arwyddocaol yn codi heblaw am am y materion isod –
Gellir datgan sicrwydd yn nhrefniadau llywodraethu a datganiadau cyfrifyddu Cyngor Cymuned Llanfair ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23 yn seiliedig ar y profion a gynhaliwyd ond bod rhai elfennau y gellir eu tynhau i liniaru risgiau a adnabuwyd. Argymhellir bod y Cyngor yn ymrwymo i roi sylw i’r risgiau canlynol a chymryd camau priodol i’w lliniaru:
Methiant i adolygu’r rheoliadau ariannol a rheolau sefydlog yn flynyddol
Diffyg yn y rheolaethau ar gyfer sefydlu a chymeradwyo taliadau ar lein
GOHEBIAETH
Cwmni Egnio
Wedi cael copi o adroddiad diweddaraf y Cwnni uchod ac adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i bob Aelod.
Mr. Dylan Hughes
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor ei fod yn ymddiswyddo o fod yn Aelod o’r Cyngor. Cytunwyd I anfon y llythyr hwn ymlaen at y Swyddog Etholiadol yn Gaernarfon.
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ers y cyfarfod diwethaf ei bod wedi cael gwybod yn dilyn ymweliad aelodau o’r grwp POBL o Llanbedr a’r Dirprwy Weinidog dros newid hinsawdd Lee Waters yn Gaerdydd ar y 26ain o fis diwethaf ei fod wedi cytuno cyflwyno pecyn teithio (transport) ar gyfer y pentref a fydd yn cynnwys ffordd osgoi cyflymder isel ynghyd a datblygu palmentydd, maes parcio a chamau eraill. Ei bod wedi cysylltu gyda’r Tim Tacluso Ardal yn gofyn iddynt chwynu y maes parcio unwaith eto.
463…………………………………………..Cadeirydd
UNRHYW FATER ARALL
Angen torri yr eiddew oedd wedi gor-dyfu i’r ffordd ger y cyn Gapel Bethel.
Angen adnewyddu un o’r arwyddion 40 m.y.a ger groesffordd Frondeg.
Angen torri rhan pella o faes parcio Llandanwg.
Yr arwydd talu ag arddangos byth wedi cael ei newid a mae’r un presennol yn edrych yn fler.
Cafwyd wybod bod kerbs ger Hillside angen sylw.
Datganwyd pryder bod aelod o’r cyhoedd yn atal plant rhag chwarae yn y cae chwarae yn gefn y neuadd. Cytunwyd bod y Clerc yn cysylltu gyda’r PCSO Elliw Williams
Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar y 19eg o Orffennaf am 7.30 o’r gloch
ARWYDDWYD……………………………………………..Cadeirydd
DYDDIAD…………………………………………………….
461