COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 05.06.23
YMDDIHEURIADAU
Cyng. Emma Howie, Thomas Mort.
PRESENNOL
Cyng. Edwina Evans (Cadeirydd), Christopher Braithwaite (Is-Gadeirydd), Ceri Griffiths, Tegid John, Rhian Corps, Gordon Howie, Huw Jones, Mark Armstrong, Martin Hughes, Wendy Williams, a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd).
Croesawodd y Cadeirydd Mr. Geraint Williams i’r cyfarfod er mwyn cael rhoi diweddariad i’r Aelodau ynglyn a trefniadau y Ffair Mop fydd yn cael ei chynnal diwedd mis nesa. Datganwyd pryder bod yna himalayan balsarn yn tyfu ar hyd ochor y llwybr am yr Eglwys a cytunwyd i gysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglyn a hyn a gofyn iddynt ei waredu. Cytunwod bod y Cyngor yn cyfranu at gynnal y Ffair Mop i fyny hyd at £2,000 fel a oedd wedi ei gytuno mewn llythyr i Mr. Williams yn mis Tachwedd 2022.
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Mai 8ed 2023 fel rhai cywir.
DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ers y cyfarfod diwethaf ei bod wedi cysylltu gyda’r Swyddogion i ddatgan pryder bod y pwyntiau gwefry ddim yn gweithio yn maes parcio Bron y Graig Uchaf ag ei bod wedi cael gwybod eu bod yn aros am Scottish Power i gysylltu’r pwyntiau hyn ag ‘roedd wedi gofyn iddynt yn y cyfamser i roi nodyn neu gorchudd ar y pwyntiau yn datgan hyn lle bod rhai yn ceisio eu defnyddio. ‘Roedd y Swyddogion wedi cyflwyno cwyn ysgrifenedig arall i Dwr Cymru ynglyn ar broblem pwysedd dwr yn y toiledau ger y Queens ag ei bod wedi derbyn gwybodaeth pellach bod y byrst o dan lein y rheilffordd a bod Dwr Cymru yn disgwyl i Network Rail ddod yn nol atynt. ‘Roedd wedi cysylltu ar Adran Priffyrdd ynglyn ar pant yn y ffordd ger Garej Morfa yn mynd yn waeth ag ei bod wedi cael ateb yn datgan fod yr Arolygwr wedi bod mewn cyswllt a Dwr Cymru a wedi gofyn iddynt ymchwilio y safle am bod yr Adran Priffyrdd o’r farn mae peipen Dwr Cymru sydd yn gollwng ag yn golchi allan i’r tir. ‘Roedd wedi derbyn nifer o bryderon gan gwahanol fusnesau yn y dref bod ffordd Twtil yn mynd i fod ar gau o’r 31ain o fis diwethaf hyd at yr 2il o’r mis yma ag ei bod wedi cysylltu gyda’r Swyddog perthnasol yn gofyn iddynt ohirio cario allan y gwaith hwn ag eu bod wedi cytuno i hyn.
Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod wedi cysylltu a Cyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn ymholiad yn gofyn iddynt glerio y mynedfa i’r traeth ag eu bod wedi cytuno i wneud hyn, cafwyd wybod bod cerddwyr yn cael eu atal rhag mynd ar hyd y llwybr cyhoeddus dan y Coleg a datganwyd bod hwn wedi bod yn lwybr cyhoeddus erioed a cytunwyd ei fod yn cysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglyn a hyn. ‘Roedd wedi derbyn cwynion bod y cafn ceffyl gyferbyn ar Hen Lyfrgell wedi blocio ond datganwyd bod hwn wedi cael ei lanhau yn ddiweddar gan y Tim Tacluso Ardal. Roedd wedi derbyn nifer o bryderon gan gwahanol fusnesau yn y dref bod ffordd Twtil yn mynd i fod ar gau o’r 31ain o fis diwethaf hyd at yr 2il o’r mis yma ag ei bod wedi cysylltu gyda’r Swyddog perthnasol yn gofyn iddynt ohirio cario allan y gwaith hwn ag eu bod wedi cytuno i hyn.
MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £6,556.84 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £28,471.16 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn.
755……………………………………….Cadeirydd
Arwyddion Ty Canol
Adroddodd y Clerc bod yr arwyddion uchod wedi cael eu gosod o’r diwedd.
Cae Chwarae Brenin Sior V
Cafwyd wybod gan y Cyng. Christopher Braithwaite ei fod yn cyfarfod a cynrychiolydd o gwmni MacVenture wythnos nesa ynglyn ar zip wire i weld a oes posib gosod ramp un ochor i wneud yr offer i weithio yn well. Hefyd cafwyd wybod ei fod yn aros am bris am ffens newydd ar hyd ochor y ffordd ag am ddatblygu llwybr o’r ffordd i’r ardal chwarae.
Cwrt Tenis
Adroddwyd bod yr Aelodau wedi cytuno rhoi y mater hwn ar yr agenda oherwydd bod rhai o’r cyhoedd wedi gofyn a fyddai modd ei dacluso. Cytunwyd bod yr Aelodau yn cario ymlaen hefo’r gwaith hwn a cytunodd y Cyng. Wendy Williams wahodd y sawl sydd eisiau gwneud y gwaith hwn i gyfarfod nesa y Cyngor ar y 3ydd o Orffennaf am 7.30 o’r gloch.
Llochesi Bws
Adroddodd y Cyng. Christopher Braithwaite ei fod wedi cael prisiau am lochesi bws newydd ag hefyd wedi dod o hyd i gwmni sydd yn gwerthu rhai wedi cael eu adnewyddu. Datganwyd bod angen symud y lloches bws o’r lleoliad presennol ger toiledau y Queens i’r cilfan gerllaw a cytunwyd aros i weld sut fath o loches bws fyddai y Cyngor yn ei archebu.
HAL
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan un o Gyfarwyddwyr y Bwrdd yn gofyn a fyddai yn bosib i’r Cyngor dalu y taliad misol ar yr 28ain o bob mis ar gyfer taliad y mis canlynol. Derbyniwyd e-bost pellach gan y Bwrdd yn gwahodd un aelod o’r Cyngor Cymuned i ddod yn aelod anweithredol o’r Bwrdd a hefyd yn gwahodd un aelod i gyfarfod ar y 29ain o’r mis hwn. Roedd y Clerc wedi rhoi gwybod iddynt byddai rhaid trafod y cais hwn yng nghyfarfod nesa y Cyngor cyn bod ddim taliad yn cael ei wneud. Hefyd adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi derbyn e-bost o Gyngor Cymuned Talsarnau yn datgan pryder ynglyn a chyfrifon HAL. Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon y ddau e-bost ymlaen i’r Aelodau. Ar ol trafodaeth fanwl cytunwyd bod angen i gyfrifon HAL gael eu archwilio ond i dalu y swm misol y mis hwn ag i ail drafod y sefyllfa os na fydd copi o’r cyfrifon ac adroddiad misol wedi cael eu derbyn erbyn cyfarfod nesa y Cyngor. Cytunodd y Cadeirydd fynychu y cyfarfod gyda HAL ar y 29ain o’r mis hwn a cytunodd y Cyng. Martin Hughes gynrychioli’r Cyngor fel aelod anweithredol o’r Bwrdd. Hefyd cytunwyd i beidio a talu y cyfraniad misol ar yr 28ain o bob mis fel oedd un o Gyfarwyddwyr y Bwrdd wedi gofyn ond ei dalu yng nghyfarfod bob Cyngor arwahan i fis Awst pan fydd y cyfraniad yn cael ei dalu ar y dydd Llun cyntaf.
CEISIADAU CYNLLUNIO
Amrywio Amod 2 (cynlluniau a gymeradwywyd) ac Amod 8 (gwelliannau bioamrywiaeth) caniatâd cynllunio NP5/61/637 i ganiatáu newidiadau i lefel y ddaear a lleoliad yr annedd, newidiadau i lefelau tir y tu ôl i annedd i hwyluso systemau draenio cysylltiedig, a chyflwyno manylion am wella bioamrywiaeth – Beaumont, Ffordd Uchaf, Harlech (NP5/61/637D)
Cefnogi y cais hwn.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £83,654.82 yn y cyfrif rhedegol a £31,278.67 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
Mr. G. J. Williams – £250.00 – torri gwair cae chwarae Brenin Sior ar cae peldroed
Mr. M. J. Kerr – £480.00 – agor bedd y diweddar Ms Dawn Foulkes.
Mr. M. J. Kerr – £440.00 – agor bedd y diweddar Mrs Eifiona Williams.
Llais Ardudwy – £20.00 – hysbyseb torri gwair
756……………………………………………..Cadeirydd
Derbyniadau yn ystod y mis
Mrs Stephanie Evans – £40.00 – rhent rhandir rhif 5 a 10
Ms Paula Ireland – £30.00 – rhent rhandir rhif 7
Mr. Gareth Jones – £40.00 – rhent rhandir rhif 15
Mrs Sue Grooms – £25.00 – rhent rhandir rhif 9
Ceisiadau am gymorth ariannol
Hamdden Harlech ac Ardudwy – £1,750 – cynnig precept (taliad misol)
Fe adroddodd y Trysorydd bod yr Archwiliad Mewnol wedi cael ei gwblhau a bod dim materion arwyddocaol yn codi heblaw am am y materion isod –
Gellir datgan sicrwydd yn nhrefniadau llywodraethu a datganiadau cyfrifyddu Cyngor Cymuned Harlech ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23 yn seiliedig ar y profion a gynhaliwyd ond bod rhai elfennau y gellir eu tynhau i liniaru risgiau a adnabuwyd. Argymhellir bod y Cyngor yn ymrwymo i roi sylw i’r risgiau canlynol a chymryd camau priodol i’w lliniaru:
Methiant i adolygu’r rheoliadau ariannol a rheolau sefydlog yn flynyddol.
Colled ariannol yn deillio o ddiffyg craffu anfonebau a derbyn cymeradwyaeth cyn creu taliad.
Methiant i gydymffurfio gyda Rheolau Ariannol y Cyngor wrth gyflwyno taliadau heb eu cyllido a fethiant i geisio am gwerth am arian wrth gaffael nwyddau o werth penodol.
Diffyg yn y rheolaethau ar gyfer sefydlu a chymeradwyo taliadau ar lein.
Methiant i gynnal cysoniad ar gyfer yr arian yn y cyfrif wrth gefn.
GOHEBIAETH
Parc Cenedlaethol Eryri
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod ynghyd a chopi o’r dogfen yn hysbysu y Cyngor bod Gorchymyn Gwarchod Coed wedi cael ei roi ar berchennog Brig y Don, Ffordd Uchaf, Harlech.
Ieuenctid Gwynedd
Wedi derbyn e-bost gan Nia Rees, gweithiwr cymorth ieuenctid yn gofyn am ganiatad i ddefnyddio cae peldroed cae chwarae Brenin Sior bob nos fercher o rwan tan ddechrau gwyliau’r haf. Cytunwyd i roi caniatad ond i ddatgan bod cyflwr y cae peldroed ddim yn dda iawn oherwydd bod moch daear a leather jacks wedi bod yn ei ddifrodi.
Network Rail
Wedi derbyn e-bost ynghyd a lluniau gan Mr. Phil Caldwell, Rheolwr Croesfan Harlech yn dangos y gwaith asesiad risc sydd wedi cael ei gario allan ganddo ar y llwybr sydd yn croesi y rheilffordd rhwng y cwrt tenis ar golf ag yn gofyn a oes gan y Cyngor unrhyw sylwadau i’w wneud ar y gwaith hwn. Cytunwyd bod gwaith da wedi cael ei wneud.
UNRHYW FATER ARALL
Datganodd y Clerc ei bod wedi derbyn cais yn gofyn a fyddai’n bosib clerio o amgylch y rhandiroedd yn y darn uchaf a cytunwyd ei bod yn gofyn i Mr. Meirion Griffiths wneud y gwaith hwn.
Cafwyd adroddiad o gyfarfod Ardal Ni a gafodd ei gynnal yn Nyffryn Ardudwy ar yr 24ain o fis diwethaf gan y Cyng. Martin Hughes. Cytunwyd bod angen ail edrych ar gynllun strategol Harlech a chreu is-bwyllgor ar mater hwn i’w drafod ymhellach yng nghyfarfod mis nesa.
Cafwyd wybod bod angen torri coeden ger Plas Owain a cytunwyd cysylltu gyda’r Adran Priffyrdd ynglyn a hyn.
Datganwyd pryder bod cerrig yn disgyn o’r wal ar hyd yr A496 ar ol dod drwy’r arwydd 30 m.y.a
ARWYDDWYD……………………………………….Cadeirydd
DYDDIAD……………………………………………… 757