COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN MAES PARCIO Y PENTREF, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 14.4.21
COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIRA GYNHALIWYD YN MAES PARCIO Y PENTREF, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 14.4.21
YMDDIHEURIADAU
Dim.
PRESENNOL
Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Russell Sharp (Is-Gadeirydd), Robert G.Owen, Mair Thomas, Dylan Hughes, David J. Roberts, Osian Edwards.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y golled diweddar oedd y Cyngor wedi ei gaelyn dilyn marwolaeth y Cyng. Gerallt Jones. ‘Roedd y Cyng. Gerallt Jones wedibod yn Aelod gwerthfawr o’r Cyngor am flynyddoedd lawer ag yn weithgar iawngyda’r Cyngor ar hyd y blynyddoedd hyn. Estynwyd cydymdeimlad dwys y Cyngor aMrs Bet Wyn Jones a’r teulu yn eu profedigaeth. Cytunwyd cyfranu £100.00 ercof.
Croesawodd y Cadeirydd y Cyng. Osian Edwards i’w gyfarfod cyntafswyddogol o’r Cyngor.
Estynwyd longyfarchiadau y Cyngor i’r Caderiydd, y Cyng. Robert G. Owenag i’r Clerc ar enedigaeth wyresau yn ddiweddar.
Ar ran y Cyngor dymunwyd wellhad buan i Mrs Gwyneth Roberts, Uwchglan.
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion 14eg o Fedi, 23ain o Hydref, 5ed o Ragfyr 2020,15ed o Ionawr a 16eg o Fawrth 2021 fel rhai cywir.
MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £18,594.21 wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddynariannol newydd a bod hyn yn £6,934.27 yn llai o wariant na beth oedd wedi caelei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. Rhannodd y Clerc gopiau o gynllungyllideb y Cyngor am y flwyddyn 2021/22 i bob Aelod a aethpwyd drwy’r cynllunhwn. Cytunodd pawb i fabwysiadu ycynllun hwn am y flwyddyn i ddod.
LLinellau Melyn ger stesion LLandanwg
Adroddodd y Clerc ei bod byth wedi derbyn diweddariad ynglyn ar cynllunuchod gan Gyngor Gwynedd a chytunwyd ei bod yn cysylltu gyda hwy unwaith ynrhagor. Bu trafodaeth o’r posibilrwydd o gael peiriant talu ag arddangos wediei osod ar ochor y ffordd cyn cyrraedd y maes parcio oherwydd bod gymaint ogeir yn parcio ar y darn yma o’r ffordd yn rheolaidd.
CEISIADAU CYNLLUNIO
Golygfa, LLandanwg
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £4,366.10 yn y cyfrif rhedegol a £5,521.14 yny cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
Cyllid a Thollad – £95.00 – treth ar gyflog yClerc
Un Llais Cymru -£103.00 – tal aelodaeth am y flwyddyn
E. W. Owen a’i Chwmni – £204.00 – darparu ag anfon PAYE y Clerc ar lein
Llais Ardudwy – £10.00 – hysbyseb tenderau torri gwair y llwybrau cyhoeddus
Pritchard a Griffiths -£100.00 – rhodd er cof am y diweddar Gyng. GeralltJones
Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. M. Downey – £40.00 – rhent cwt yr hers (Ebrill)
Rhannodd y Trysorydd gopiau o gyfrifon y Cyngor yn diweddu 31ain o Fawrth 2021 i bob Aelod. Fe aethpwyd drwy’rcyfrifon yn ofalus ag fe gymeradwyddwyd y cyfrifon yn unfrydol gan yr Aelodau.Cytunwyd gan pawb bod y llyfr cyfrifon yn cael ei arwyddo gan y Cadeirydd a’rClerc.
GOHEBIAETH
Nid oedd unrhyw ohebiaeth wedi ei dderbyn ers y cyfarfod diwethaf.
UNRHYW FATER ARALL
Datganwyd pryder bod goleuadau ar ffordd Sarn Hir ers peth amser erbynhyn ag eglurodd y Clerc ei bod wedicysylltu ar Adran Priffyrdd yn barod ynglyn a hyn.
Datganwyd bod y gwair angen ei dorri ar ochor y ffordd ag eglurodd yClerc ei bod wedi cael gwybod bydd y gwaith hwn yn cael ei gario allan yn ystody mis hwn.
Ar ddiwedd cyfarfod y Cyngor aeth yr Aelodau draw i edrych ar porth yreglwys a oedd angen sylw. Cytunwyd bodangen peintio blaen a tu ol y porth ynghyd ar giat ar railings. Penderfynwydgofyn i Mr. Euron Richards wneud y gwaith.
Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor pan fydd angen
ARWYDDWYD……………………………………………..Cadeirydd
DYDDIAD…………………………………………………….