COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 14.09.23

COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 14.09.23

YMDDIHEURIADAU

Cyng. Mair Thomas, a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)

PRESENNOL

Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Russell Sharp (Is-Gadeirydd), Robert G. Owen, Hywel Jones, Osian Edwards, David J. Roberts a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd)

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Gorffennaf 17eg 2023 fel rhai cywir.

MATERION YN CODI

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £10,980.08 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £2,646.87 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. 

Wi-Fi yn y Neuadd

Adroddodd y Clerc bod ddim mwy i adrodd ynglyn ar uchod ddim ond bod Mr. Rob Lewis yn gweithio i gael sustem

yn ei le yn y neuadd.

HAL

Adroddodd y Clerc bod cyfarfod gyda HAL wedi cael ei gynnal ar y 27ain o Orffennaf a wedi cael gwybod bod cynrychiolaeth dda yna ac adroddodd y Clerc bod copi o gofnodion y cyfarfod hwn wedi cael ei anfon ymlaen i’r Aelodau yn barod. ‘Roedd hefyd wedi derbyn gwybodaeth ynglyn ar incwm a gwariant wedi cael ei dorri i lawr oedd wedi ei wneud a’i dderbyn yn mis Gorffennaf ag ‘roedd wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i bob Aelod. Adroddodd y Clerc ymhellach bod cyfarfod wedi cael ei gynnal gyda’r Cynghorau o ardal Ardudwy yn y neuadd bentref, Llanbedr ar y 3ydd o Awst i drafod y ffordd ymlaen rhwng Cynghorau Cymuned yr ardal a HAL. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi anfon cofnodion o’r cyfarfod hwn ymlaen i bob Aelod ag hefyd e-bost oedd Clerc Cyngor Llanbedr wedi ei anfon at HAL. Cafwyd wybod gan y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan HAL nos Iau y 24ain o fis diwethaf yn datgan bod cyfarfod gyda’r Cynghorau Cymuned yn cael ei gynnal mewn awr. ‘Roedd wedi anfon hwn ymlaen i gynrychiolwyr y Cyngor ag hefyd i bod Aelod. ‘Roedd hefyd wedi cael gwybod bydd cyfarfod arall gyda Chynghorau ardal Ardudwy yn cael ei gynnal yn Llanbedr ar yr 11eg o fis nesa am 7.30 o’r gloch a chytunodd y Cyng. Osian Edwards fynychu y cyfarfod hwn ar ran y Cyngor ag hefyd y cyfarfod nesa rhwng HAL ar Cynghorau Cymuned. Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-byst gan rhai o drigolion yr ardal ynghyd ag aelodau cangen Blaid Llafur Ardudwy yn gofyn am gyfarfod cyhoeddus gyda Aelodau o Fwrdd HAL er mwyn cael trafod y sefyllfa diweddaraf ynglyn ar safle yn wyneb y ffaith bydd y caffi yn gorffen darparu bwyd ar y 16eg o’r mis hwn a ddim ond yn darparu diodydd o hyn ymlaen ag hefyd bod y wal ddringo ar gau. Penderfynwyd bod cangen y Blaid Lafur yn gofyn i HAL eu hunain am gyfarfod hefo nhw. 

Seddi Cyhoeddus

Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael copi o gatalog SLPW sydd yn dangos y seddi sydd ar gael. Adroddodd y Cyngor Hywel Jones ei fod wedi bod o amgylch y seddi dan sylw a bod angen un newydd yn y fynwent ag hefyd yn Y Maes, Llandanwg ond bod posib iddo drwsio yr un ger Ty Gwyn ag hefyd peintio yr un metal ar ochor y ffordd. Cytunwyd i archebu un ar hyn o bryd a’i gosod yn y fynwent ag i’r Clerc wneud ymholiadau gyda’r cwmni ynglyn a’r pris, cludiant a.y.y.b. Cytunodd y Cyng. Robert Owen i’r sedd hon gael ei danfon i Cae Cethin.

464…………………………………………….Cadeirydd

Ethol Cynghorydd

Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod gan y Swyddog Etholiadol bod ddim enwau wedi eu dderbyn ganddo ynglyn ar sedd wag sydd yn bodoli ar y Cyngor ag felly nawr mae gan y Cyngor yr hawl I gyfethol Aelod o’r Cyngor. Cafwyd wybod bod Mr. Guy Slater wedi cytuno dod yn Aelod o’r Cyngor a cytunwyd yn unfrydol I’w gyfethol ag I’r Clerc gysylltu ag ef a’I wahodd I gyfarfod nesa y Cyngor.

Rheolau Sefydlog ag Ariannol

Adroddodd y Clerc ei bod wedi rhoi y mater hwn ar yr agenda oherwydd bod yr Archwiliwr Mewnol wedi datgan bod yn rhaid i’r Rheolau hyn gael eu adolygu yn flynyddol. Hefyd adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi derbyn copi o Reolau Sefydlog Diwygiedig gan Un Llais Cymru ag hefyd ei bod wedi ychwanegu y datganiadau a oedd mewn coch yn y Rheolau Ariannol. Cytunwyd i fabwysiadu y Rheolau Sefydlog Diwygiedig ag hefyd mabwysiadu yr ychwanegiad oedd wedi eu cynnwys yn y Rheolau Ariannol o dan y penawd talu cyfrifon sef – Yn benodol, dylai trefniadau gynnwys gwahannu dyletswyddau yn y broses o gymeradwyo, prosesu ac awdurdodi taliadau ar lein. Yn benodol, dylai’r Cyngor sicrhau bod dau unigolyn yn ymwneud â phrosesu’r taliad; byddai un unigolyn yn prosesu’r taliad, a byddai’r unigolyn/ion arall yn cymeradwyo’r taliad.

LLwybrau Cyhoeddus yr Ardal

Adroddodd y Clerc ei bod wedi rhoi y mater uchod ar yr agenda oherwydd ei bod wedi derbyn e-bost gan Helen Parslow yn gofyn beth oedd yn digwydd gyda’r llwybrau cyhoeddus yn ardal Pensarn oherwydd bod amryw wedi cau ag yn amhosib i’w cerdded. Hefyd yn datgan y byddant yn fodlon helpu i gadw y llwybrau hyn yn agored ag yn gwybod am grwpiau sydd yn cael eu creu i wneud y gwaith hwn. Cytunwyd i hyn mewn egwyddor ond penderfynwyd cyn ymateb iddynt bod y Clerc yn cysylltu a Swyddog Llwybrau, Cyngor Gwynedd i weld a oedd ganddynt yr hawl i wneud hyn.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Ddim wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £14,996.47 yn y cyfrif rhedegol a £5,561.18 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y  mis

Mrs Annwen Hughes – £380.00 –   cyflog 3 mis

Cyngor Gwynedd       –  £246.00 –   archwiliad mewnol 2022/23

Mr. Roy Carter            –   £80.50  –   torri gwair y llwybrau cyhoeddus

Mr. Arwel Thomas    –  £580.00  –   torri gwair y fynwent x 2

Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y Cadeirydd, y Cyng. Eurig Hughes a wnaeth yr Is-Gadeirydd y Cyng. Russell Sharp gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.

Derbyniadau yn ystod y mis

Mr. M. Downey          – £40.00  –  rhent cwt yr hers (Awst) 

Cyngor Gwynedd –  £8,500.00  –  hanner y precept

Mr. M. Downey          – £40.00  –  rhent cwt yr hers (Medi) 

Ceisiadau am gymorth ariannol

Hamdden Harlech ac Ardudwy – £2,142.00 (cyfraniad am y 3 mis diwethaf)

GOHEBIAETH

Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd

Wedi cael llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bydd y ffordd o Uwchglan I’r gogledd I Dremadoc, Llanfair ar gau ar y 4ydd o Hydref oherwydd bod gwaith cloddio I ddarparu gwasanaeth newydd ar ran Dwr Cymru yn cymeryd lle.

465…………………………………………….Cadeirydd

Mr. Alex Jones

Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn gofyn am wybodaeth ynglyn a pwy sydd yn berchen ar gau drws nesa I’w ty ag ‘roedd wedi anfon copi o’r e-bost hwn ymlaen I bob Aelod. Cafwyd wybod bod y cae dan sylw o flaen Bron Gadair ond oedd neb yn siwr pwy oedd ei berchen.

MATERION CYNGOR GWYNEDD

Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ymhellach i’r gwyn oedd wedi ei dderbyn bod yr arwydd pyst pren wedi diflanu o ben lwybr zig-zag ag un metal wedi ei osod yn ei le ‘roedd wedi cael gwybod bod y arwydd pyst pren wedi pydru ag erbyn hyn mae arwyddion llwybr yr arfordir wedi eu gosod ar y pyst metal. ‘Roedd wedi cael cwyn bod y bin baw cwn i lawr yn maes parcio Y Maes wedi gor-lenwi ag ‘roedd wedi cysylltu gyda Chyngor Gwynedd yn syth ynglyn a hyn a gafodd y bin baw cwn ei gwagio yn syth. ‘Roedd hefyd wedi derbyn e-bost gan aelod o’r cyhoedd yn bryderus ynglyn ar cais arfaethedig i osod mast yn Rhyd yr Eirin ag ‘roedd wedi anfon hyr e-bost yma ymlaen i’r Parc Cenedlaethol a wedi cael gwybod bod ddim cais cynllunio wedi cael ei gyflwyno eto a ddim ond ymholiad cyn cais oedd wedi ei dderbyn.

UNRHYW FATER ARALL

Datganwyd pryder bod rhai yn parcio yn rhy agos i groesffordd Caersalem ag oherwydd hyn yn creu problemau i’r bws droi ag hefyd i rhai sydd angen dod i’r ffordd oherwydd gweladwy.

Cafwyd wybod bod coed wedi gor-dyfu ar yr hen ffordd Llanfair ag oedd angen edrych os oedd rhain ochor Llanfair neu Harlech.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar y 18ed o Hydref am 7.30 o’r gloch

ARWYDDWYD……………………………………………..Cadeirydd

DYDDIAD…………………………………………………….                                       466

Share the Post:

Related Posts