COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YNNEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 20.01.22
ANNWEN HUGHES 20.01.22
YMDDIHEURIADAU
Cyng. Russell Sharp (Is-Gadeirydd), DylanHughes.
PRESENNOL
Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Hywel Jones, OsianEdwards, Robert G. Owen, Mair Thomas, David J. Roberts,
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Rhagfyr 1af 2021fel rhai cywir.
MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Dosbarthwyd copiau o’ruchod yn dangos y gwahaniaethau yn y gwariant a oedd wedi cael ei wneud i fyny hydat y 31ain o Ragfyr 2021 ers dechrau Ebrill 2021 a beth oedd wedi cael eiglustnodi yn y cynllun cyllideb hyd at diwedd mis Rhagfyr i bob aelod oedd ynbresennol. Adroddwyd bod £18,013.92(a oeddyn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannolnewydd a bod hyn yn £4,501.94 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodiyn y gyllideb am y flwyddyn. Aeth yr aelodau drwy y gwahaniaethau yn y gwarianta oedd wedi cael ei wneud a beth oedd i lawr ar y cynllun cyllideb fesul un. Cytunwydi dderbyn yr uchod.
Etholiad Cynghorau Cymuned Mai 2022
Adroddodd y Clerc ei bod wediderbyn e-bost gan yr Adran Etholiadol, Cyngor Gwynedd yn hysbysu yr Aelodauoherwydd bod etholiadau yn cael eu cynnal yn mis Mai 2022 bod yn rhaid i bob CyngorTref a Chymuned glustnodi £1,500 – £2,000 yn eu cyllideb rhag ofn byddaietholiad yn cael eu gynnal yn eu Cyngor Cymuned.
Cyllideb y Cyngor am 2022/23
Dosbarthwyd copiau o’ruchod I bob Aelod oedd yn bresennol yn dangos cyfrifon y Cyngor i fyny at y31ain o Ragfyr 2020 i bob aelod er mwyn iddynt gael gweld beth oedd y sefyllfaariannol. Amcangyfrif o’r gwariant canlynol gan y Cyngor am y flwyddyn ariannolnesa – insiwrant y Cyngor £450, cyflog y Clerc £1,900, costau y Clerc £300,treth ar gyflog y Clerc £380, Cyfrifydd y Clerc £204, cyfraniadau £1,000,Hamdden Harlech ac Ardudwy £8,564.38 , pwyllgor neuadd Goffa £1,000, costau fynwent £1,500, torri gwair ymynwentydd £2,000, torri gwair y llwybrau £1,200, Dwr Cymru £40, biniau halen£300, cyfraniad i gadw toiledau cyhoeddus Llandanwg yn agored £4,000, Un LlaisCymru £100, llogi ystafell bwyllgor £150, archwilwyr £600, amrywiol £1,000,cynnal a chadw gwahanol eitemau £1,200, costau banc £100, etholiad CyngorCymuned £1,500.
Precept y Cyngor am y flwyddyn 2022/23
Fe dderbyniwyd llythyrgan Gyngor Gwynedd ynglyn ar mater uchod. Wrth edrych ar y gyllideb a rhagweld beth fyddai gwariant y Cyngor am yflwyddyn ariannol nesa, cytunwyd I adael y precept ar £16,000.
Polisi Asesiad Risg y Cyngor
Dosbarthwyd copiau o’ruchod i bob aelod a oedd yn bresennol a gafodd bob eitem a oedd arno ei drafodarwahan. Penderfynwyd derbyn y polisi hwn.
Panel Cyfrifiad Annibynnol
Adroddodd y Clerc bod ynrhaid arwyddo ffurflen gan bob Cynghorydd ynglyn ar uchod eto eleni. Mae angenrhestru bob rheol sydd yn cael ei mabwysiadu yn cofnodion y Cyngor ag os byddrheol taliadau ar gyfer costau yn cael ei mabwysiadu bydd angen i’r Cynghorwyrsydd DDIM am hawlio costau arwyddo ffurflen yn datgan hyn. Ar ol trafodaeth cytunwydi fabwysiadu y rheol taliadau ar gyfer costau eto eleni a cytunwyd bod pawb oedd eisiau hawlio costauyn gwneud hynny ond ei fod yn bwysig bod pawb yn ei anfon yn nol i’r Clerc arol ei cwblhau.
441…………………………………………..Cadeirydd
PwyllgorNeuadd – 19.1.22
Cafwyd adroddiad gan y Cyng. Mair Thomas aRobert Glynne Owen y ddau wedi mynychu y cyfarfod uchod ag fe ddatganwydganddynt bod peintio tu allan y neuadd yn dal i gael ei wneud, bod popty y stofwedi cael ei dynnu oherwydd diffyg ynddo a bod y pwyllgor wedi penderfynnuarchebu microdon yn ei le. ‘Roedd pryder gan y pwyllgor bod yr anfoneb am ytrydan yn uwch nag arfer ag hefyd bod y pwyllgor wedi penderfynnu tynnu rotaallan i osod blodau ar y Gofeb. Bydd cyfarfod blynyddol y pwyllgor yn cael ei gynnalar y 30ain o Fawrth.
CEISIADAU CYNLLUNIO
Diwygio Amod Rhif 2 o Ganiatad Cynllunio NP5/66/LB2G ar gyfer newidiadaumewnol a adfer 3 ffenestr to ar yr edrychiad blaen – Ty’n Llan, Llanfair,Harlech (NP5/66/LB12H)
Cefnogi y cais hwn.
Ail-wampio strwuthurol yn cynnwys gosod cladin allanol – 6, 7, 8,9, 10 & 11 Derlwyn, Llanfair (NP5/66/282)
Cefnogi y cais hwn.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £5,371.95 yn y cyfrifrhedegol a £5,521.70 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
Cyllid a Thollad – £95.00 – treth ar gyflog y Clerc
Mrs Wendon Wigglesworth – £36.00 – binbrown y fynwent.
Dwr Cymru – £17.29– tap y fynwent.
Derbyniadau yn ystod y mis
Pritchard a Griffiths – £1,665.00– claddu y diweddar Mr. Morris Eurwyn Evans
Mr. M. Downey – £40.00 – rhent cwt yr hers (Ionawr)
Adroddodd y Trysorydd body Cyngor wedi dan wario £4,501.94 ers cychwyn y flwyddyn ariannol hon hyd at y 31ain o Ragfyr 2021 ag eibod yn rhagweld byddai £9,
776.36 yncael ei gario drosodd ar y 31ain o Fawrth 2022. Rhaid cofio hefyd bydd o leiaf£1,328.29 o wariant angen ei wneud erbyn diwedd Mawrth 2022 a ddim ond £211.00i ddod i mewn (ar hyn o byrd) ag byddai gan y Cyngor wariant sylweddol i’wwneud yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf 2022/23 oherwydd bod £8,564.38 wedicael ei glustnodi ar gyfer Hamdden Harlech ac Ardudwy a £4,000 wedi cael eiglustnodi i Gyngor Gwynedd fel cyfraniady Cyngor i gadw y toiledau cyhoeddus yn Llandanwg yn agored sydd yn gwneudcyfanswm o £12,564.38 heb gynnwys ddim gwariant arall fyddai y Cyngor yn eiwneud. Felly wrth gofio y byddai hwyrach £9,776.36 yn cael ei gario drosodd abod y precept yn aros ar £16,000 (£9,776.36+ £16,000 = £25,776.36 – £1,328.29 = £24,448.07) hwyrach bydd y Cyngor yn iawn gyda’igwariant am y flwyddyn ariannol 2022/23. Bydd yr Aelodau yn gallu gweld y rhagolygonariannol am y flwyddyn i ddod yn well diwedd Mawrth 2022.
GOHEBIAETH
Llywodraeth Cymru
Wedi derbyn llythyr gan yr uchodyn hysbysu y Cyngor mae y swm priodol o dan Adran 137(4)(a) o Ddeddf LlywodraethLeol 1972, Gwariant Adran 137 y Terfyn ar gyfer 2022/23 fydd £8.82 yr etholwr. Adroddodd y Clerc y rhif o diweddaraf o etholwyrsydd genni yw 332 ag felly mae gan y Cyngor hawl i gyfranu hyd at £2,928.24 igyrff allanol.
CyngorGwynedd – Adran Priffyrdd
Wedi derbyn llythyr gan yr adran uchod yn hysbysuy Cyngor, fel ychwanegiad i’r gwasanaeth cynnal yn y gaeaf byddant yn darparuhalen i’r biniau halen pwrpasol sydd yn y gymuned yn ddi-dal o hyn allan.
Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bostynghyd a lluniau gan y Cyng. Mair Thomas o’r mwd sydd ar y clawdd llanw rhwngArgoed ag Ymwlch ag ei bod wedi ei gyfeirio at Mr. RhysRoberts, SwyddogProsiect Llwybr Arfordir ag ei bod wedi derbyn atebganddo yn datgan y bydd yn cael golwg arno a rhoi cerrig man o fewn ardal ygiat mochyn.
442…………………………………………..Cadeirydd
Hamdden Harlechac Ardudwy
Adroddodd yClerc ei bod wedi derbyn llythyr gan Mr. Michael Griffiths yn cyflwno ei hun fely Rheolwr newydd i’r safle uchod. Hefyd yn diolch i’r Cyngor am eu cefnogaeth gyda’r cymorth ariannol sydd yncael ei roi iddynt bob blwyddyn a mae hyn wedi diogelu y pwll nofio i’r gymunedleol. Yn datgan ymhellach ei fod yn barod i ddod i un o gyfarfodydd y Cyngorgyda un o’r Cyfarwyddwyr i ddiweddaru yr Aelodau a chymryd unrhyw gwestiynau.Cytunwyd i beidio a gwahodd Mr. Griffiths i gyfarfod o’r Cyngor oherwydd bod yrAelodau yn teimlo eu bod yn cael digon o adborth gan y Cyng. Dylan Hughes.
Mrs Carol Beavis
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn gofyn afyddai yn bosib iddi beintio murlun ar ar y darn triongl o wal blaen yntoiledau cyhoeddus Llandanwg ag hefyd a fyddai y Cyngor yn cefnogi archebu diffibriliwri’w osod yn Llandanwg os byddai ymgyrch codi arian i archebu un yn cael eidrefnu. Cytunwyd yn gyntaf datgan wrth Mrs Beavis bod yn rhaid iddi gysylltugyda Chyngor Gwynedd fel perchnogion y toiledau i ofyn am ganiatad i beintiomurlun ag yn ail cytunwyd bod archebu diffibriliwr yn syniad da a byddai yCyngor yn fodlon gwneud y gost i fyny ar ddiwedd yr ymgyrch codi arian ag hefydfod yn gyfrifol am archebu y peiriant.
UNRHYW FATER ARALL
Datganwyd pryder bod coed yn gor-dyfu i’rffordd o rhiw Dewi Sant ymlaen at Hafod Wen ag oherwydd hyn bod loriau yn arosmwy allan i ganol y ffordd rhag torri eu drychau a cytunodd y Clerc gysylltugyda Chyngor Cymuned Harlech ynglyn a hyn.
Datganwyd pryder bod y ddeiseb ynglyn a fforddosgoi Llanbedr ddim ond ar lein yn unig a cytunodd y Cyng. Annwen Hughes wneudymholiadau i gael fersiwn papur wedi ei wneud.
Cafwyd wybod bod coeden angen ei thorri yn yfynwent a cytunwyd gofyn i Mr. Arwel Thomas gael golwg arni ag os na fydd yn gallugwneud y gwaith i ofyn i Treefella ei wneud.
Cafwyd wybod bod eiddew yn tyfu ochor yfynwent i gwt yr hers a cytunwyd gofyn i Mr. Arwel Thomas ddelio gyda hyn.
Cafwyd wybod bod carreg fedd y diweddar Mr.Ben Rowlands Y Gof angen sylw a cytunwyd gael golwg arni cyn y cyfarfod nesa.
Cafwyd wybod bod llwybr yr arfordir sydd ynrhedeg ar hyd Sarn Hir angen sylw a cytunodd y Clerc gysylltu gyda Mr. Rhys Roberts, Swyddog Prosiect LlwybrArfordir ynglyn a hyn.
Datganwyd pryder bod ffordd Sarn Hir yn anwastada datganodd y Clerc bod Cyngor Cymuned Llanbedr wedi cysylltu gyda ChyngorGwynedd ynglyn a hyn yn barod a cytunwyd bod angen gwaredu y stripiau coch syddochor Llanbedr ar Sarn Hir.
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ei bod wedisylwi bod yr arwydd yn gofyn a ydych wedi talu ag arddangos lawr yn maes parcioY Maes wedi dechrau pydru a rhan o’r saesneg ddim yna, ag hefyd ei bod wedisylwi bod y ddau bolyn sydd yn dal arwydd “Llanfair” wrth groesffordd Fron Degmewn cyflwr drwg iawn. Adroddodd y Cyng. Hughes ymhellach ei bod wedi anfon ylluniau hyn at y Peiriannydd Ardal yn Nolgellau yn gofyn iddynt adnewyddu yrarwydd ar polion dan sylw.
Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor panfydd angen
ARWYDDWYD……………………………………………..Cadeirydd
DYDDIAD…………………………………………………….
443